25 Chwef 2025

Gwobrau'r Amgylchedd 2025 a chanlyniadau arolygon

Mae gennym ddau gyhoeddiad i'w rhannu am fentrau newid hinsawdd ac amgylcheddol Cymdeithas Rhedwyr Mynydd Cymru (CRhMC):

  • Derbyn ceisiadau ar gyfer Gwobrau'r Amgylchedd 2025
  • Canlyniadau arolwg 2024 ar newid hinsawdd a’r amgylchedd

Gwobrau Amgylchedd 2025 CRhMC

Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer Gwobrau'r Amgylchedd 2025! 

Mae’r gwobrau’n dathlu gwaith ein cymuned ledled Cymru a’r Gororau wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd, cynaliadwyedd a materion amgylcheddol. Maen nhw hefyd yn annog cynnydd pellach. Mae gennym ddau gategori o wobrau, gydag enillydd ar gyfer pob un:

  • Trefnydd ras
  • Unigol

Dywedwch wrthym pwy sy'n eich ysbrydoli! Rydyn ni eisiau gwybod pwy sy'n eich ysbrydoli a pha rai o'ch cyfoedion rydych chi'n meddwl sy'n gwneud gwaith gwych yn y maes hwn, felly ni allwch enwebu eich hun - hoffem i chi enwebu pobl eraill. Rhaid i'r cyflwyniad ymwneud â gweithgaredd y person yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (01/01/2024-31/12/2024).

Gellir cyflwyno enwebiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.

>>> Cyflwynwch eich enwebiad a dysgwch ragor am y gwobrau yma. <<<

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Sul, 16 Mawrth 2025.

Wedi methu Gwobrau'r Amgylchedd y llynedd? Darllenwch am yr enillwyr blaenorol.

Fe wnaeth yr enillwyr blaenorol hefyd ymddangos yn rhifyn haf 2024 (#139) o gylchgrawn The Fellrunner, y cylchgrawn chwarterol sy’n cael ei gyhoeddi gan Gymdeithas y Rhedwyr Mynydd (FRA) – y corff llywodraethu ar gyfer rhedwyr mynydd yn Lloegr.

Photograph of a double page spread in The Fellrunner magazine summer issue 2024

Roedd yr erthygl, Climate Change and Environmental Action in Fell Running, yn 'ddarn sgwrsio' gyda Briony Latter (Swyddog Amgylcheddol CRhMC) a Kathryn Miller (Swyddog Mynediad ac Amgylchedd FRA). Roedd yn cynnwys astudiaethau achos ac enghreifftiau o Gymru, Lloegr a'r Alban ynghylch camau y gallwn eu cymryd i leihau ein heffaith ar yr hinsawdd a’r amgylchedd wrth redeg ar diroedd mynydd.

Canlyniadau'r arolwg

Y llynedd, fe gynhalion ni arolwg ar newid hinsawdd a materion amgylcheddol mewn perthynas â rhedeg ar diroedd mynydd. Roedd wedi'i anelu at aelodau CRhMC, Trefnwyr Rasys, a rhedwyr mynydd yng Nghymru a'r Gororau. Fe gawson ni lawer iawn o ymatebion. Diolch i bawb a gymerodd amser i gwblhau’r arolwg a gadael sylwadau calonogol am drafodaeth CRhMC o’r pynciau hyn.

Pwy gwblhaodd yr arolwg?

  • 245 o bobl
  • Roedd 88% yn aelodau o CRhMC, a 12% ddim yn aelodau o CRhMC
  • Roedd 23% yn Drefnwyr Rasys (y mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n cofrestru ac yn sicrhau eu ras drwy CRhMC), a 76% ddim yn Drefnwyr Rasys

Ymwneud â’r canllawiau presennol a chamau gweithredu cyfredol

Roedd rhan o'r arolwg yn holi am y ddogfen Climate change and environment guidance sydd ar gael ar wefan CRhMC. Mae’r canllawiau’n cynnig argymhellion, manylion ac enghreifftiau ymarferol o gamau gweithredu er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd a materion amgylcheddol wrth redeg ar diroedd mynydd.

Ymatebodd llawer o bobl i ddweud eu bod nhw wedi cymryd camau ar ôl darllen yr argymhellion yn y ddogfen hon:

  • Roedd hyn yn ymwneud yn bennaf â theithio (mae’n debyg mai teithio yw ein heffaith fwyaf fel rhedwyr mynydd)
  • Roedd camau gweithredu eraill yn ymwneud â lleihau eitemau (defnydd o blastig a lleihau’r defnydd o eitemau eraill e.e. cit rhedeg, eitemau untro, rhifau rasio)

Dyma rai o'r gweithredoedd y gwnaethoch chi eu rhannu:

Trefnwyr rasys

Rhedwyr Mynydd (sydd ddim yn Drefnwyr Rasys)

Gwobrau cynaliadwy (bara cartref), ailddefnyddio rhifau rasys. Annog teithio cynaliadwy

“Dwi’n gofyn i ymgeiswyr rannu lifft gymaint â phosibl. Dwi hefyd wedi cynnig codi cystadleuwyr o’r orsaf drenau”

Rhannu car lle bo modd i gyrraedd digwyddiadau. Dwi’n ceisio cyfuno ras gydag arhosiad hirach yn yr ardal i wneud defnydd da o’r daith gan fy mod i’n byw ymhell i ffwrdd”

"Fyddai'n trio trafeilio gyda ffrind i rasus lle'n bosib. Dwu hefyd wedi cychwyn hel unrhyw sbwriel fyddai'n ei weld o amgylch Eryri lle'n bosib"

"Fel rhedwr mynyddoedd dwi’n ceisii lleihai fy footprint - prynnu offer ail-law, peidio derbyn t-shirst ayyb byddaf hefyd yn codi y mater hwn yn committee meeting nesaf fy nghlwb rhedeg"

Raising awareness and action

We also asked you to share thoughts about what would help to raise awareness and action about climate change and environmental issues in the fell running community in Wales and the Borders. This could relate to the Climate change and environment guidance or other ways of engaging with people.

There were lots of suggestions, including:

  • “Make WFRA's guidance more prominent to participants”
  • “More engagement - social media? Email?
  • “Some practical tips when registering on Fabian4
  • “Perhaps at races there ought to be information about how someone could contribute positively to climate change”
  • Organised volunteering sessions (e.g. litter picking, outreach)”
  • “A regular newsletter or similar, the FRA has a magazine […] that covers a wide range of subjects, including environmental issues”
  • “Races publishing what they are doing to reduce environmental impact and encouraging runners with incentives”

Thank you again to everyone who completed the survey and to those already taking climate and environmental actions. There were a lot of fantastic ideas (that we haven’t been able to include in this news article due to space!) and useful results.

The survey was available in Welsh and English and was open from 28th July – 27th August 2024. The results were shared at the WFRA's Annual General Meeting (AGM) in November 2024 and we are working through them to see how we can take some of the ideas forward.

If you want to get in touch about the Environment Awards or the survey, contact Briony Latter (WFRA Environmental Officer) via the Committee page.